Penodi pedwar darlithydd newydd i’r Brifysgol

Robert Bowen, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Robert Bowen, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

19 Medi 2014

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi helpu penodi nifer o unigolion newydd i weithio mewn gwahanol feysydd ym Mhrifysgol Aberystwyth er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, a hynny am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Bydd Catrin Edwards yn dychwelyd i Gymru er mwyn ymgymryd â swydd ddarlithio ym maes Gwleidyddiaeth Ryngwladol wedi cyfnod yn gweithio ym Mhrifysgol Ottawa, Canada. Polisi iaith, addysg a mewnfudo yw prif arbenigedd Catrin ac mae ganddi ddoethuriaeth yn y maes o Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Gareth Llyr Evans sydd wedi’i benodi i swydd ddarlithio ym maes y Celfyddydau Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ganddo brofiad sylweddol o ddysgu drwy’r Gymraeg wedi dwy flynedd o ddarlithio yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu y brifysgol. Bydd Gareth yn gyfrifol am gyflwyno a chydlynu gradd BA Celfyddydau Creadigol a chyfrannu at waith ymchwil yn y maes.

Dafydd Llywelyn sydd wedi’i benodi i swydd ddarlithio ym maes Troseddeg yn y brifysgol. Gwaith yr Heddlu a maes cudd-wybodaeth yw arbenigedd Dafydd wedi cyfnod yn gweithio fel Prif Ddadansoddydd Troseddol Heddlu Dyfed Powys. Fel rhan o’i swydd bydd yn cydweithio â phrifysgolion eraill trwy gynnal darlithoedd ar y cyd er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y maes.

Mae Robert Bowen wedi’i benodi i swydd ddarlithio ym maes Rheoli Busnes a Mentergarwch Gwledig yn y brifysgol ar ôl treulio cyfnod yn darlithio ym Mhrifysgol Nantes, Ffrainc. Gwaith Robert fydd ehangu ar y cydweithio sy’n digwydd rhwng yr Ysgol Busnes a Rheolaeth ag Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, trwy greu rhaglen israddedig newydd mewn Rheoli Cynhyrchu Bwyd.

Yn ôl Robert, “Mae’r swydd hon yn yr Ysgol Fusnes yn apelio’n fawr ataf gan ei bod mewn partneriaeth â’r Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig. Bydd heb os yn gyfle gwych i ddatblygu modiwlau cyfoes sy’n debygol o apelio at fyfyrwyr sy’n dymuno astudio rhan o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Yn ôl Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, “Roeddem yn falch o glywed bod Prifysgol Aberystwyth wedi llwyddo i benodi’r unigolion hyn o dan Gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg ac rydym yn dymuno’r gorau iddynt wrth fynd ati i ddatblygu’r ddarpariaeth yn eu priod feysydd. Bydd y penodiadau heb os yn hwb ychwanegol i’r gymuned cyfrwng Cymraeg gref sydd eisoes yn bodoli ar gampws y Brifysgol.”

AU35614