Yr Heli-kite yn hedfan yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth

Dr Dave Barnes a'r 'helikite'

Dr Dave Barnes a'r 'helikite'

30 Mehefin 2006

Ddim yn gwybod beth i'w wneud gyda'r plant yn ystod hanner tymor? Mae’r ateb gan wyddonwyr o Brifysgol Cymru, Aberystwyth – robot sydd yn edrych fel croesad rhwng balwn awyr poeth a barcud. Mae’r ‘Heli-Kite’ yn mynd i gael ei arddangos ar y 31ain o Fai a’r 1af o Fehefin fel rhan o arddangosfeydd hanner tymor yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain, ‘Roborama’.
 
Trefnwyd Roborama er mwyn herio ac ysbarduno’r ffordd y mae’r cyhoedd yn meddwl am y datblygiadau diweddaraf ym maes roboteg.  Mae ymchwilwyr roboteg o Brifysgol Cymru, Aberystwyth wedi ymuno â’r Amgueddfa Wyddoniaeth er mwyn cynhyrchu sioe llawn hwyl ar gyfer teuluoedd sydd yn gofyn gymaint o gwestiynau ac y mae’n ei hateb. Bydd cynulleidfaoedd yn dysgu llawer am robotiaid, trafod beth yn union yw robot a beth mae pobl am iddynt ei wneud, o’r ymarferol – glanhau a gwneud gwaith cartref fel arfer – i’r ysbrydoledig – teithio yn y gofod.
 
Bydd Roborama yn cael ei berfformio ddwy waith bod dydd yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn ystod wythnos hanner tymor (Mai 27 – Mehefin 4) am 10.30 ac am 11.30 yn y brif theatr. Mae’n sioe hanner awr ac yn addas ar gyfer teuluoedd sydd â phlant 5 oed neu’n hŷn.
 
Ddydd Mercher 31ain o Fai a dydd Iau 1 Mehefin bydd y sioe yn cael ei hymestyn i gynnwys ymweliad gan Dr Dave Barnes, Darllennydd mewn Roboteg y Gofod a’r Planedau ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Bydd Dave yn arddangos yr helikite – robot sydd yn edrych fel croesad rhwng balwn awyr poeth a barcud. Datblygwyd y robot ar gyfer gweithio mewn amgylchedd eithafol fel yr hyn a geir ar y blaned Mawrth: bydd yn codi setiau bychain o gyfarpar gwyddonol, yn mesur amgylchiadau atmosfferig a defnyddio camera ar-fwrdd ar gyfer cyfeirio crwydrwr ar wyneb y blaned.
 
Dyma’r rhan gyntaf o raglen genedlaethol o’r enw ‘Robot Thought’, sydd yn cael ei chydlynu gan Dr Karen Bultitude o Brifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste.  Mae ‘Robot Thought’ yn golygu sefydlu partneriaethau rhwng ymchwilwyr roboteg a chanolfannau gwyddoniaeth, a chynhyrchu arddangosfeydd gwyddonol addysgiadol diddorol a difyr sydd yn adlewyrchu yr ymchwil diweddaraf mewn roboteg ar gyfer teuluoedd. Cynhelir y sioeau yma ar draws y DU yn ystod 2006/7. Ceir mwy o wybodaeth am ‘Robot Thought’ ar y wefan http://www.uwe.ac.uk/fas/graphicscience/projects/events/robot_thoughtII.htm .
 
Mae’r partneriaid eraill yn cynnwys: Prifysgol Gorllewin Lloegr (Bryste); Prifysgol Cymru, Aberystwyth; Prifysgol Caeredin; Y Brifysgol Agored; At-Bristol (Bryste); Canolfan Gwyddor Bywyd (Newcastle); Techniquest (Cardiff); Techniquest@NEWI (Wrecsam); Amgueddfa Wyddoniaeth Thinktank (Birmingham); Amgueddfa Wyddoniaeth, Llundain; W5 (Belffast); a Gwyl Wyddoniaeth Caeredin.