Newyddion
Problemau wrth ddefnyddio Microsoft OneDrive, Sharepoint, neu Teams 20.03.2024
20/03/2024
Wrth i chi geisio defnyddio rhai gwasanaethau Microsoft, efallai y gwelwch rybudd gan Microsoft Defender yn dweud bod y cynnwys wedi'i rwystro gan eich gweinyddwr TG, neu debyg.
Mae Gwasanaethau Gwybodaeth bellach wedi nodi'r broblem, ond gall gymryd hyd at ychydig oriau i'r atgyweiriad ddod i rym ar eich cyfrifiadur. Gall ailgychwyn eich cyfrifiadur helpu i ddatrys y mater yn gynt.
Rhwydwaith mewn Perygl - Dydd Mawrth 26ain o Fawrth
13/03/2024
Mae’r rhwydwaith mewn perygl rhwng 7am a 10am ddydd Mawrth 26 Mawrth i gynnal diweddariadau hanfodol ar wal dân y Brifysgol.
Ymddiheurwn am unrhyw aflonyddwch y gall hyn ei achosi.
Darllenwch eich hun yn well ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl Prifysgol heddiw
12/03/2024
I nodi Diwrnod Iechyd Meddwl Prifysgol heddiw, rydym yn tynnu sylw at ein casgliad Darllen yn Well llyfrau ac e-lyfrau i'ch helpu i ofalu am eich lles meddyliol.
Galwch i mewn i Lyfrgell Hugh Owen i weld yr arddangosfa o lyfrau a thipiau ar gyfer gwella eich lles digidol ar Lefel D neu borwch y teitlau ar ein Rhestr Ddarllen yma
Edrychwch ar ôl eich hunain
Gwobrau Amlygu Prifysgol Aberystwyth yn Llyfrgell Hugh Owen
11/03/2024
Dysgwch ragor am Wobrau Amlygu Prifysgol Aberystwyth trwy ymweld â'r arddangosfa yn Ystafell Iris de Freitas, Llyfrgell Hugh Owen lle byddwn yn dathlu cyfraniadau arbennig menywod a phobl anneuaidd i'n cymuned yma ym Mhrifysgol Aberystwyth
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod - Ddydd Gwener 8fed Mawrth
08/03/2024
I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod - Ddydd Gwener 8fed Mawrth a Mis Hanes Menywod (Mawrth), edrychwch ar yr arddangosfa lyfrau ar Lefel F Llyfrgell Hugh Owen.
Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2024 #YsbrydoliCynhwysiant
08/03/2024
Heddiw, rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched! Y thema eleni yw #YsbrydoliCynhwysiant, ac mae’n rhoi cyfle pwysig i ni ddathlu cyflawniadau diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol-economaidd menywod, ac mae’n ddiwrnod i’n hannog ni i weithio gyda’n gilydd tuag at ddyfodol mwy cynhwysol a chyfiawn.
Dyma ddetholiad o fideos a chyrsiau LinkedIn Learning sydd wedi’u hysbrydoli gan Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched. Gallwch gael mynediad i’r holl gynnwys am ddim gyda’ch cyfrif LinkedIn Learning Prifysgol Aberystwyth.
- What is inclusion? (2m)
- Gender equity for women (6m)
- Women transforming tech: Breaking bias (22m)
- Becoming a male ally at work (39m)
- Nano Tips for Identifying and Overcoming Unconscious Bias in the Workplace (6m)
- Men as allies (3m)
- Fighting gender bias at work (14m)
- Inclusive female leadership (40m)
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i gael mynediad at neu ddefnyddio LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).
Creu'r gweithle gorau
22/02/2024
Mae un o’n Pencampwyr Digidol Myfyrwyr wedi rhannu eu cyngor ar greu'r gweithle gorau.
Darllenwch eu blogbost yma: https://wordpress.aber.ac.uk/digital-capabilities/cy/2024/02/19/strategaethau-ar-gyfer-creur-gweithle-gorau/
Pam defnyddio SgiliauAber? Tip #3
13/02/2024
P'un a oes angen arweiniad ysgrifennu academaidd, cyngor gyrfa, llyfrgell, lles neu gymorth technegol arnoch (...a llawer mwy!) bydd gennych fynediad at gefnogaeth pwrpasol 1:1 i'ch helpu i gyrraedd eich potensial academaidd llawn.
Archwiliwch y rhestr o wasanaethau cymorth 1:1 yn SgiliauAber.
https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/one-to-one-appointments/
Cadwch y Dyddiad: Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu
08/02/2024
Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi dyddiad yr 12fed Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu. Cynhelir y gynhadledd o ddydd Mawrth 10 Medi hyd ddydd Iau 12 Medi 2024.
Cadwch lygad am Alwadau am Gynigion a chyhoeddi thema’r gynhadledd. Yn ôl ein harfer, byddwn yn diweddaru ein tudalennau gwe ynghylch y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn ogystal â’n blog er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynghylch sut mae pethau’n datblygu.
Diweddariad ynghylch ceisiadau digido ar gyfer rhestrau darllen yn Semester 2
10/01/2024
Efallai y bydd oedi wrth ddod o hyd i benodau ac erthyglau penodol nad ydynt ar gael ar hyn o bryd yng nghasgliadau ein llyfrgelloedd nac ar gael ar-lein. Mae'r sefyllfa hon y tu hwnt i'n rheolaeth ac yn deillio o ymosodiad seiber diweddar ar y Llyfrgell Brydeinig. Mae hyn wedi effeithio ar eu gwasanaethau a'u mynediad at amrywiaeth o ddeunyddiau. O ganlyniad, ni allwn wirio, caffael na phrynu eitemau penodol wedi'u digido o'u casgliadau drwy'r Gwasanaeth Cyflenwi Addysg Uwch Manylach. O ganlyniad, bydd cael deunyddiau neu adnoddau sy'n dibynnu ar y mynediad a'r gwasanaeth hwn yn golygu oedi nes bod y sefyllfa'n cael ei datrys. Os oes unrhyw broblemau gyda'ch ceisiadau digido ar gyfer eich rhestr ddarllen, bydd aelod o staff y llyfrgell yn cysylltu â chi. Rhagor o wybodaeth gan y Llyfrgell Brydeinig: https://www.bl.uk/
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 Ebost: gg@aber.ac.uk