Newyddion a Digwyddiadau

Am y diweddaraf am ein systemau a'n gwasanaethau, ewch i'r Blog Diweddariadau Gwasanaethau GG

Lefel E ar ei newydd wedd

24/04/2024

Yr haf hwn, bydd newidiadau ar Lefel E (ail lawr) Llyfrgell Hugh Owen.

Byddwn yn symud rhai mannau i staff a myfyrwyr o gwmpas i greu gofod mwy i fyfyrwyr ac i greu rhagor o fannau astudio yng nghornel de-orllewinol y Llyfrgell. Bydd gan yr ardal astudio newydd olygfeydd dros y dref i’r môr ac yn cynnwys 6 ystafell astudio grwp newydd.

Am ragor o fanylion ar y newidiadau, gan gynnwys y dyddiadau allweddol a mapiau o'r ardaloedd a fydd yn newid, ewch i'n tudalen Newidiadau Lefel E

Siaradwyr Gwadd: Lansiad Llyfr Pedagodzilla ac Ymosodiad Pod

23/04/2024

Mae'n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein Siaradwyr Gwadd nesaf ar 2 a 3 Mai 2024. 

Bydd Pedagodzilla yn ymuno â ni ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau dros y 2 ddiwrnod.  I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle, gweler ein blog.

Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Gallwch Gofrestru ar gyfer y Gynhadledd nawr

23/04/2024

Gallwch gofrestru nawr ar gyfer yr deuddegfed gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol.

Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Paratoi ar gyfer Rhagoriaeth: Cynllunio Dysgu ac Addysgu Arloesol ac fe’i cynhelir rhwng dydd Mawrth 10 a dydd Iau 12 Medi 2024.

Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd trwy lenwi’r ffurflen ar-lein. 

Sgiliau Digidol mewn DA a DA Cynhyrchiol

22/04/2024

Mae holiadur ‘Sgiliau Digidol mewn DA a DA Cynhyrchiol’ newydd ar gyfer myfyrwyr a staff bellach ar gael yn Offeryn Darganfod Digidol Jisc. Bydd yr holiadur newydd hwn yn eich helpu i hunanasesu a datblygu eich gwybodaeth am Ddeallusrwydd Artiffisial (DA) mewn saith maes.

Darllenwch y blogbost hyn am wybodaeth pellach.

Gweithdy DA SgiliauAber

22/04/2024

Eisiau dysgu mwy am ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (DA/AI) yn gyfrifol yn eich astudiaethau?

Ymunwch â’r sesiwn ar-lein ddydd Mercher, 24 Ebrill, 13:00-13:30.

Mae’r ddolen i ymuno â'r sesiwn Gymraeg ar gael ar SgiliauAber: https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/skills-workshops/

SgiliauAber

19/04/2024

Eisiau gwybod pa sgiliau academaidd sydd gennych chi?

Eisiau gwella eich sgiliau academaidd?

Chwilio am arweiniad ac adnoddau ar ddatblygu eich sgiliau academaidd?

SgiliauAber yw'r lle i fynd!

https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/

Ebrill 2024 Diweddariad Blackboard Learn Ultra

16/04/2024

Ebrill 2024 Diweddariad Blackboard Learn Ultra

Hoffai’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu dynnu sylw at welliannau i Hyfforddwyr yn niweddariad Blackboard Learn Ultra ym mis Tachwedd:

  • Negeseuon dienw ar gyfer trafodaethau
  • Gwelliannau i adborth a chyfrifiadau Llyfr Graddau

Am fwy o fanylion, darllenwch ein blog: Ebrill 2024 Diweddariad Blackboard Learn Ultra

Defnyddio ystafelloedd astudio'r llyfrgell

12/04/2024

Rydyn ni'n gwybod ei bod yn boen os ydych chi am ddefnyddio ystafell astudio llyfrgell ond maen nhw i gyd wedi archebu.

Mae’n fwy o boen fyth os yw'r ystafell wedi'i harchebu, ond does neb yn ei defnyddio.

Cofiwch ganslo eich ystafell os nad oes ei hangen arnoch mwyach – e-bostiwch gg@aber.ac.uk – a byddwn yn rhyddhau'r ystafell ar gyfer myfyrwyr eraill.

Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion: Wythnos 8

04/04/2024

Mae’r proffil olaf yn ein cyfres sgiliau digidol yma! Darganfyddwch sut mae meistroli Cysill a Cysgeir tra ym MhA wedi cefnogi taith broffesiynol Manon. Byddwn yn dychwelyd ym mis Hydref ’24 gyda chyfres newydd o broffiliau cyflogwyr! ??

?? Darllenwch eu proffil yma: https://wordpress.aber.ac.uk/digital-capabilities/cy/?p=2961

Sesiynau Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu

08/04/2024

11/04    Staff Workshop on Artificial Intelligence: How can AI support Learning, Teaching, Research and Admin

11/04    E-learning Essentials: Preparing your Online Exams (L & T: Online)

15/04    Re-thinking Assessment in the Age of AI (L&T)

18/04    Generative AI Guidance for Staff (L&T Online)

18/04    E-learning Essentials: Preparing your Online Exams (L & T: Online)

23/04    Generative AI Discussion Forum (L&T Online)

Amserau/archebu

Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion: Wythnos 6

21/03/2024

Mae wythnos 6 o’n cyfres yma! Mae Gabriela yn rhannu sut y mae hi wedi perffeithio ei sgiliau rhaglennu a ffotograffiaeth gyda LinkedIn Learning tra ym MhA ??‍????

?? Darllenwch eu proffil yma: https://wordpress.aber.ac.uk/digital-capabilities/cy/2024/03/21/cyfres-proffil-sgiliau-digidol-graddedigion-wythnos-6-gabriela-arciszewsk/

Galwad am Gynigion: 12fed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol

14/03/2024

Gwahoddir staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig a myfyrwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer 12fed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol Prifysgol Aberystwyth a gynhelir rhwng 10-12 Medi 2024.

Gallwch gyflwyno a gweld yr alwad am gynigion ar-lein.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, e-bostiwch udda@aber.ac.uk.   

Dechrau pennod newydd - Dysgwch mawr am apiau i helpu eich arferion darllen

23/02/2024

?? Darllenwch ein blogbost am fwy o wybodaeth: Dechrau pennod newydd – Apiau i helpu eich arferion darllen ?? | (aber.ac.uk)