Materion Israddedigion
ASESIADAU SEMESTER DAU
Amgylchiadau Arbennig: Cofiwch roi gwybod i'ch adran[nau] am unrhyw anghenion arbennig (meddygol, personol ac ati) a allai effeithio ar eich perfformiad yn Semester Un mewn digon o bryd, a CYN y cyfarfodydd byrddau arholi. Gwnewch hyn trwy gwblhau “Ffurflen Amgylchiadau Arbennig” sydd ar gael gan eich Adran drwy ddolen ar eich Cofnod Myfyriwr neu ar y we yma: https://www.aber.ac.uk/cy/aqro/handbook/taught-schemes/. Rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r ffurflen amgylchiadau arbennig i’r adran(nau) academaidd ynghyd ag unrhyw dystiolaeth gefnogol. Bydd yn llawer mwy anodd newid marciau am fodiwlau unwaith y cytunwyd arnynt gan byrddau arholi’r adran ar Senedd.
Amserlen yr Arholiadau: Cofiwch wneud yn siŵr o’r amserlen arholiadau eich bod yn troi i fyny yn y man iawn ar yr amser iawn. Nid yw camddeall yr amserlen yn rheswm dilys am fod yn absennol ac fe allech fethu'r flwyddyn gyfan o ganlyniad i hyn.
Canlyniadau Semester Dau: Ar ôl i’r Bwrdd Arholi gadarnhau eich marciau bydd eich canlyniadau yn cael eu gosod ar eich Cofnod Myfyriwr ar y we ar ôl 10yb ar y dyddiad canlynol:
- Holl fyfyrwyr y flwyddyn olaf: Dydd Iau 27 Mehefin
- Pob myfyriwr arall: Dydd Iau 4 Gorffennaf
Asesiadau Ailgynnig yr Haf: Mae'n hanfodol eich bod yn gwirio'ch canlyniadau a'ch tasg Asesiadau Ailgynnig Haf ar gyfer modiwlau rydych wedi'ch cofrestru'n awtomatig i'w hailsefyll ac ar gyfer unrhyw fodiwlau y mae gennych yr opsiwn i ailsefyll ynddynt. Bydd angen i rai myfyrwyr gofrestru ar gyfer ailsefyll ym mis Awst felly mae'n bwysig eich bod yn gwirio'ch tasg i weld eich opsiynau os oes gennych rai. Mae’r dag ar gael fel arfer y diwrnod y caiff eich canlyniadau eu rhyddhau am bythefnos.
Dylai myfyrwyr sydd yn disgwyl ei thystysgrif radd derfynol sicrhau bod ei enw a chyfeiriad cartref yn gywir. Eich enw fel mae yn ymddangos ar eich cofnod myfyriwr fydd sut y caiff ei argraffu ar eich tystysgrif gradd, a’ch cyfeiriad cartref fel y mae’n ymddangos ar eich cofnod myfyriwr yw lle bydd eich tystysgrif yn cael ei hanfon os na fyddwch yn ei chasglu’n bersonol ar ôl graddio. Sicrhewch fod y wybodaeth hon yn gywir erbyn 20 Mehefin 2024 fan bellaf.
Gwybodaeth i Israddedigion
- Arholiadau ac Asesiadau
- Gwybodaeth Ailsefyll a Taliadau Ailsefyll
- Cofrestru
- Gwybodeth Amrywiol
- Gwasanaethau cofrestrfa academaidd i israddedigion
- Ffioedd Dysgu
- Gwobrau
Cysylltwch â Ni
Tîm | E-bost | Ffôn |
---|---|---|
Gweinyddu Myfyrwyr Israddedig | ugfstaff@aber.ac.uk | (01970) 622290 / 628515 / 622787 |
Gweinyddu Myfyrwyr Dysgu o Bell | dlrstaff@aber.ac.uk | (01970) 622290 / 622057 |
Tystysgrifau | aocstaff@aber.ac.uk | (01970) 622016 / 622354 / 622849 |
Graddio | gaostaff@aber.ac.uk | (01970) 622354 / 622849 |
Yr ydym ar agor dydd Llun i dydd Iau 9yb at 5yp a dydd Gwener 9yb at 4yp ar y llawr cyntaf, adeilad Cledwyn , campws Penglais.
Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr
Cofrestrfa Academaidd, Prifysgol Aberystwyth,
Llawr cyntaf, Adeilad Cledwyn,
Campws Penglais,
Aberystwyth
SY23 3DD
Gwasanaethau ymholiad rhithwir