Llys y Brifysgol

Swyddogaeth y Llys

Diffinir swyddogaeth y Llys fel a ganlyn yng nghymal XIV y Siarter:

Bydd Llys i’r Brifysgol. Rôl y Llys fydd darparu fforwm cyhoeddus ar gyfer cyfathrebu ac ar gyfer trafod gweithgareddau’r Brifysgol. Bydd aelodaeth a swyddogaethau’r Llys fel y’u darperir drwy Ordinhad.

Mae Ordinhad yn amlinellu cyfansoddiad y Llys.

Aelodaeth y Llys

Cyfarfod 2024

Cynhelir cyfarfod blynyddol y Llys dyn Sinema Ganolfan y Celfyddydau ar ddydd Iau, 16 Mai 2024, am 2:00yp.

Bydd trefn y cyfarfod fel a ganlyn:

  1. Anerchiad agoriadol gan y Canghellor, Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd.
  2. Adroddiad ar waith y Brifysgol gan Gadeirydd y Cyngor, Ms Meri Huws.
  3. Anerchiad gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Jon Timmis, ar ddatblygiadau yn y Brifysgol.
  4. Cyflwyniad gan Darrell Abernethy, [Teitl i'w gadarnhau]
  5. Bayanda Vundamina, Undeb Myfyrwyr.

Yn unol â’r arfer yn y blynyddoedd cynt, bydd cyfle i aelodau’r Llys holi cwestiynau ar ddiwedd pob un o’r eitemau uchod.

Mae croeso i chi gyfrannu at y cyfarfod yn Gymraeg, a bydd cyfleusterau cyfieithu ar y pryd yn cael eu darparu.

Cadarnhewch eich presenoldeb trwy e-bostio saastaff@aber.ac.uk neu ffonio 01970 622048